top of page
aVxw0UvemQKqHqBs8wvY2bAP8Ic

 

T5Mcf1TiU_XzRaKeR4sfvIQT0bs

Y Stori Hyd Yma

Medi 2022
Y Pwyllgor ac is-grŵpiau

Yn dilyn codi'r blaendal sefydlwyd is grwpiau.

Treuliodd y Grŵp Adeiladu amser yn Y Tŵr yn creu cynlluniau adeiladu a cynlluniau llawr, a'r weledigaeth o botensial yr adeilad.

Bu’r Grŵp Busnes yn ymchwilio i gynlluniau grantiau a chyfranddaliadau ac yna cychwyn ar y broses o ymgeisio am grantiau.

Bu’r Grŵp Hyrwyddo yn creu tudalennau cyfryngau cymdeithasol, a gwefan newydd. Cynhaliwyd cystadlaethau, holiadur, a trafodwyd cynlluniau codi arian ar gyfer y fenter.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Menter Y Tŵr yn rhan o brosiect 'Gwella Pwllheli' gan Gyngor Gwynedd. Rydym yn hynod gyffrous fod cydweithio wedi cychwyn efo'r Ecoamgueddfa gyda'r gobaith y gall Y Tŵr gael ei gynnwys fel Hwb ar fap yr Ecoamgueddfa.

16 Tachwedd 2023
Cyrraedd y targed

Ar ol chwech wythnos gyffrous o hyrwyddo cyhoeddwyd y newyddion anhygoel ar 16 Tachwedd 2023 fod y gymuned wedi buddsoddi dros £500,000 mewn cyfranddaliadau!

Gwanwyn - Haf 2024
Diwrnodau agored a nosweithiau cymunedol

Bu'n adeg prysur iawn i'r criw ar gychwyn 2024 gyda sawl digwyddiad yn cael ei gynnal
Trefnwyd Gig Bwncath gan griw Jin Buan yn y clwb rygbi, Bu noson Bingo yn y Clwb Golff a cafwyd sawl diwrnod Agored yn Y Twr

Gwanwyn - Haf 2024
Cynlluniau newydd!

Bu'm yn gweitrhio'n agos gyda Rhodri Evans, Pensaer o gwmni Dobson Owen, i ddatblygu gweledigaeth o'r adeilad gan sicrhau fod y cynllun yn addas ar gyfer anghenion a disgwyliadau'r gymuned. Roedd y gwaith ymgynghori yn allweddo yn y broses

Medi 2022
Blaendal

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus llwyddianus iawn ym mis Awst 2022 roedd hi'n glir fod y gymuned eisiau bod yn berchen ar Y Twr. Llwyddwyd i godi y blaendal o £60,000 mewn cwta 24 awr.

Hydref 2023
Lansio cynllun siârs

Cynhaliwyd lansiad swyddogol y Cynllun Cyfranddaliadau yn nhafarn hynaf Pwllheli sef Penlan Fawr ar 1 Hydref 2023. Bu'n bnawn prysur a difyr gyda'r band lleol adnabyddus Pys Melyn yn diddanu. Bu'r Ymgyrch Cyfranddaliadau yn weithredol am 6 wythnos hyd gyda'r dyddiad cau ar 16/11/23. Llwyddwyd i gyrraedd a phasio y nod o £400,000 er mwyn cwblhau'r pryniant.

Rhagfyr 2023
Y clirio'n cychwyn

Yn ystod mis Rhagfyr cychwynnodd y gwaith enfawr o glirio a thacluso y tu fewn a thu allan i'r Twr. Bu craen yn clirio'r landerau, sgip anferthol i gael gwared â'r sbwriel, a Jac codi baw i glirio a thacluso'r iard ar ardd gwrw!

Gwanwyn - Haf 2024
Ymgynghori a grantiau

Fel rhan o ddablygu'r fenter i anghenion y gymuned , cafwyd sawl ymgynghoriad a'r cyhoedd. Cafwyd ymgynghoriad cyffredinol am ddefnydd yr adeilad, ymgynghoriad amgylcheddol a Ymgynghoriad hygyrchedd. Mae'r gwaith yma wedi bod yn hanfodol ar gyfer ein dealltwriaeth o anghenion y gymuned ac wedi cyfoethogi y gwybodaeth ar gyfer ceisiadau grantiau . Bu ceisiadau gwerth cannoedd o filoedd eu cyflwyno i wahanol gyllidwyr.

Rhagfyr 2024
Cychwyn Gwaith adnewyddu

Diwedd y flwyddyn, a chychwyn pennod arall yn hanes y Twr. Ar ol derbyn grantiau gan AHNE a chronfa Trawsnewid Trefi LLywodraeth Cymru,   cychwynnodd y gwaith o ddymchwel yr hen estyniad ar y cefn a chodi sgaffaldiau ogwmpas yr adeilad . Am y 6 mis nesaf bu'r adeilad tu ol i haen o blastig gwyn ble roedd yr adeiladwyr  D R Williams yn brysur yn tynnu ac adnewyddu'r to, simfeydd, ffenestri to ffenestri'r adeilad gan orffen y gwaith drwy rhoi cot o baent ffres mewn lliw cwbl newydd a chaethus! 

IMG-20250703-WA0010_edited.jpg

Gorffennaf 2025
Dadorchuddio ar ôl y gwaith adnewyddu

Ar ôl misoedd o guddio y tu ôl i sgaffaldiau a gorchudd plastig gwyn, daeth y diwrnod i ddadorchuddio’r adeilad. Ar ddiwrnod heulog ym mis Gorffennaf, fe dynnwyd y gorchudd, gan roi’r cipolwg cyntaf ar Y Tŵr yn ei newydd wedd. Mae’r gwaith wedi’i alluogi drwy grantiau gan AHNE a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Awst 2025
Cronfa Treftadaeth Loteri Cenelaethol.

Ar ol cais llwyddiannus,10 derbyniwyd grant o £215,790 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi cam datblygu Y Tŵr fel gwesty, hwb cymunedol a safle treftadaeth.

  • X
  • Threads
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
bottom of page