
Carys Owen
Magwyd Carys ym mhentref Llannor ac mae hi’n byw a gweithio ym Mhwllheli. Carys ydy Cyfarwyddwr a sylfaenydd Steil Cyf, cwmni annibynnol sy’n dylunio ceginau ac ystafelloedd molchi ac wedi’i leoli ar Stryd Fawr Pwllheli.
Mae Carys yn aelod o ‘Be Nesa Llyn’, sefydliad sy’n cynnig benthyciadau di-log ac yn mentora pobl ifanc Llyn sydd am fentro mewn busnes.
Mae Carys yn angerddol am Ben LlÅ·n ac yn hynod o bryderus am ei thref, Pwllheli.

Elin Hywel
Fel Cynghorydd Gogledd Pwllheli ar Gyngor Sir Gwynedd ac wedi cymhwyso fel cyfrifydd, mae gan Elin dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig o bob math.
Mae Elin wedi gweithio ar ddatblygu prosiectau a galluogi twf busnes mewn mentrau cymdeithasol, elusennau, grwpiau cymunedol a busnesau cynaliadwy ar draws Gwynedd.
​

Ffion Williams
Mae Ffion wedi ei geni a’i magu ym Mhwllheli ac efo’i gwr Robyn yn falch o gael magu eu teulu eu hunain yn y dref. Mae gan Ffion gefndir o weithio yn y maes Cyfathrebu a Marchnata ac hefyd gwaith datblygu cymunedol. Ers dros 10 mlynedd mae wedi mwynhau swydd yn cefnogi teuluoedd. Mae ganddi drosolwg glir o’r heriau sydd yn wynebu cymunedau, unigolion a teuluoedd.
Mae Ffion yn credu yn gryf bod gan Pwllheli y postensial i fod y dref berffaith ond mae angen datblygu Y Tŵr fel canolbwynt fydd yn rhoi hyder ac egni yn ôl i’r dref.

Huw Pennant Jones
Mae Huw wedi byw ym Mhwllheli ar hyd ei oes heblaw am 13 mlynedd pan oedd yn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol. Mae'n briod â Lowrie ac mae ganddynt ddau o blant, Gethin a Shan.
Mae’n ddatblygwr eiddo, masnachol yn bennaf, ac yn Gyfarwyddwr Pennant Homes Ltd.

Indeg Wyn
Mae Indeg yn dod o Bwllheli a’i theulu ers cenedlaethau o’r blaen. Mae ganddi dri o blant rhwng 11 a 6 oed ac mae’n bwysig iddi sicrhau dyfodol iddynt yn eu cynefin.
Mae Indeg wedi gweithio fel cyfreithiwr yng Nghaernarfon ers dros 15 mlynedd ac yn cynghori ar ochr gyfreithiol y fenter.
​

Keith Webber
Cyn symud i Bwllheli yn 2020, treuliodd Keith 37 mlynedd yn helpu i redeg Theatr gymunedol, fel gwirfoddolwr ar ôl i’r cyngor lleol benderfynu ei chau.
Ymunodd â'r Pwyllgor ac yna cymerodd y gweithgor cynnal a chadw rôl Technegydd Theatr. Treuliodd bum mlynedd fel cyfarwyddwr y Cwmni Buddiannau Cymunedol a hefyd ychydig flynyddoedd fel Goruchwyliwr Safle Dynodedig. Mae ganddo Drwydded Bersonol (alcohol) a thystysgrif warden tân Chubb.
Ymunodd Keith â phwyllgor Menter Y Tŵr gan ei fod yn awyddus i gyfrannu i’r gymuned leol tra ar yr un pryd yn helpu i wella’r Stryd Fawr.

Lisa Dafydd
Mae Lisa’n wreiddiol o Benrhyndeudraeth ond mae’n byw ym Mhwllheli bellach ers bron i 15 mlynedd efo’i gŵr a’u dau o blant.
Mae Lisa yn gyfrifydd wrth ei gwaith ac wedi gweithio efo amrywiaeth o fusnesau lleol, bach a mawr, dros y blynyddoedd.

Annette Ryan
Mae Annette wedi bod yn byw ym Mhwllheli ers 20 mlynedd ac mae’n frwd dros wneud i Bwllheli ddisgleirio unwaith eto.
Trwy ei gwaith gyda phobl ifanc a meddwl am ddyfodol eu tref, cafodd ei hysbrydoli i gymryd rhan a bod yn rhan o fenter gymunedol gyffrous Y Tŵr. Mae gan Bwllheli gymaint i’w gynnig, ac yn sicr gall gynnig mwy. Mae’n dref wych ac rwy’n credu’n wirioneddol, drwy gydweithio â chydlyniant ac ymrwymiad cymunedol, fod ganddi’r potensial i fod y dref farchnad brysur, ffyniannus a hapus yr oedd ar un adeg.
"Rwy’n hyderus y bydd menter Y Tŵr, gyda chefnogaeth y gymuned, yn ailgynnau grym Pwllheli gan gynnig cyfleoedd newydd, cadarnhaol a chyffrous i bawb."

Ann Evans
Mae Ann yn wreiddiol o Ben LlÅ·n ac ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn byw yng Nghaerdydd, mae Ann bellach wedi dychwelyd i’r ardal ac ymgartrefu ym Mhwllheli.
Mae hi wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ers dros 30 mlynedd yn comisiynu ac ariannu prosiectau. Mae’n mwynhau cerdded a seiclo ac mae’n aelod o’r côr lleol, Côr yr Heli.

Robyn Williams
Rheolwr Gweithrediadau Agoriad cyf. Mae Agoriad yn gwmni trydydd sector yn ngogledd Cymru sydd yn berchen ar ac yn rhedeg sawl menter a cwmni cymdeithasol. Rwyf wedi gweithio yn y maes addysg , hyfforddiant a chyflogaeth ers dros 20 mlynedd.
Yn wreiddiol o Morfa Nefyn rwyf wedi byw ym Mhwllheli ers 2002 ac yn awyddus i wneud popeth posib i ddatblygu Y Tŵr fel tafarn, gwesty a hwb cymunedol ddaw a buddianau cymunedol yn ei sgil.

Manon Owen
Yn gweithio ym myd addysg ers tua 30 mlynedd ac yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli. Wedi byw ym Mhwllheli bron ar hyd ei hoes ac mae’r dref yn agos iawn at ei chalon. Yn awyddus i ddod ag ysbryd cymunedol, balchder a bwrlwm cymunedol Cymreig i’r dref.
​
Eisiau ymuno a ni?
Cysylltwch a ni:
