top of page
Mae gan Bwllheli hanes cyfoethog a chymuned glos. Tyfodd y dref o amgylch y diwydiannau adeiladu llongau a physgota a'r chwarel gwenithfaen. Gyda phoblogaeth o tua 4,000 o bobl, mae’r dref yn cynnig traethau a tirwedd hardd, a diwylliant lleol bywiog. Mae'n croesawu llif cyson o ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.
 

 
hen lun stryd fawr Pwllheli
logo y twr brics
Hen fap Pwllheli

 
Adeiladwyd Y Tŵr yn 1875 ac mae’n sefyll mewn lleoliad canolog ac amlwg ar y stryd fawr. Bu'r adeilad unwaith yn ganolbwynt prysur - gwesty, bwyty, bar ac ystafell i gynnal digwyddiadau cymdeithasol. Crewyd atgofion a datblygwyd syniadau cyffrous yn yr adeilad hwn. Credwn y gallai Y Tŵr unwaith eto ddod yn ganolbwynt cymunedol bywiog a fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r dref ac yn helpu i adfer y stryd fawr.
Logo Y Twr
  • X
  • Threads
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
bottom of page